Croeso i wefan newydd prosiect Gutun Owain, Bardd y ffin a Dyn y Dadeni!

Dechrau’r cronicl ‘Brenhinedd y Saeson’ yn Llyfr Du Basing (LlGC 7006D), 199. / The beginning of the chronicle ‘Brenhinedd y Saeson’ in the Black Book of Basingwerk (NLW 7006D), 199. Darparwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru / Supplied by The National Library of Wales

Roedd Gutun Owain yn fardd ac uchelwr o Ddudlust, ger Croesoswallt, a fu’n ymddiddori nid yn unig mewn barddoniaeth ond hefyd mewn ystod eang o feysydd gan gynnwys hanes, achyddiaeth, herodraeth, seryddiaeth, gwyddoniaeth a meddyginiaeth. Lluniodd rai o lawysgrifau Cymraeg harddaf a phwysicaf yr Oesoedd Canol diweddar.

Yr oedd Gutun yn sicr yn ‘Ddyn y Dadeni’ yn ystyr eang yr ymadrodd, yn rhinwedd ei hoffter o ddysg a’i ddiddordebau eang, ond i ba raddau y gellir ei ystyried ef a’i noddwyr dysgedig yn rhai a fu’n rhagbaratoi’r tir ar gyfer ffyniant diweddarach y Dadeni Dysg yng Nghymru?

Bydd prosiect ymchwil newydd a gynhelir yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, dan nawdd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) yr UKRI, yn cynhyrchu golygiadau newydd o gerddi Gutun Owain ac yn archwilio natur ei ysgolheictod a’i waddol.

Bydd mwy o ddeunydd am Gutun ac am ei gerddi, ei lawysgrifau a’i noddwyr yn cael ei ychwanegu at y wefan hon dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Ceir yma fanylion am ddigwyddiadau’r prosiect hefyd.

Byddwn yn lansio’r prosiect ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam: Cymdeithasau 1, 4 Awst, 15:00. Os byddwch ar y Maes, cadwch lygad hefyd am boster newydd am y prosiect yn stondin Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant!

Rhan o’r cronicl achyddol yn LlGC 3026C (Mostyn 88), 69 / Part of the pedigree-chronicle in NLW 3026C (Mostyn 88), 69. Darparwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru / Supplied by The National Library of Wales.

Welcome to the website for our new project on Gutun Owain, Border poet and Renaissance man!

Gutun Owain was a gentleman-poet from Dudleston, near Oswestry, who cultivated a range of interests including history, genealogy, heraldry, astrology, science and medicine as well as poetry, and produced some of the most important and visually striking Welsh manuscripts of the later Middle Ages.

He was certainly a ‘Renaissance Man’ in terms of his love of learning and his wide range of interests, but to what extent did he and his peers prepare the ground for the later flourishing of the Renaissance in Wales?

A new research project, funded by the UKRI Arts and Humanities Research Council (AHRC), at the University of Wales Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies will produce new editions of Gutun Owain’s poetry and investigate the nature of his scholarship and legacy.

Further information about Gutun and his poetry, manuscripts and patrons will be added to this website during the weeks and months to come. There will also be details about the project’s events. We will be launching the project at the National Eisteddfod in Wrexham: Societies Pavilion 1, 4 August, 15:00 (English translation will be available). If you are on the Maes, keep an eye out too for our new poster about the project, in UWTSD’s stand!

Tîm y prosiect/Project team:

Dr Jenny Day (Cymrawd Ymchwil ac Arweinydd Prosiect/Research Fellow and Project Leader)

Dr Gruffudd Antur (Cymrawd Ymchwil/Research Fellow)

Dr Martin Crampin (Cymrawd Ymchwil/Research Fellow)

Yr Athro Ann Parry Owen (Ymgynghorydd/Adviser)

Tîm y Prosiect/ Project team.

Am y prosiect

Teitl llawn: Cymro Cyntaf y Dadeni? Gutun Owain a diwylliant ysgolheigaidd y gogledd-ddwyrain yn yr Oesoedd Canol diweddar

Hyd y prosiect: O Awst 2025 hyd at ddiwedd Hydref 2027

Rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) yr UKRI am ariannu’r prosiect.

Diolchir yn fawr hefyd i’n partneriaid, Cadw a’r Eisteddfod Genedlaethol, am eu cefnogaeth i’r prosiect.

About the project

Full title: The first Welsh Renaissance man? Gutun Owain and the scholarly culture of north-east Wales in the later Middle Ages

Period: August 2025 until the end of October 2027

We gratefully acknowledge the funding provided for this project by the UKRI Arts and Humanities Research Council (AHRC).

We are also grateful to our project partners, Cadw and the National Eisteddfod, for their support.